Straeon Maethu: Karen a Tom
Straeon Maethu: Karen a Tom

stori Karen a Tom

Mae'r cwpl priod, Karen a Tom, yn cefnogi dyn ifanc, sydd bellach yn ei ugeiniau cynnar, a dwy ferch ifanc, yn eu cartref yn Sir Ddinbych.

y teulu maeth

Dechreuodd Karen a Tom faethu ar ôl iddyn nhw sylweddoli eu bod yn dymuno darparu cartref sefydlog i blant.

"Roedd Tom yn gweithio yn yr heddlu, ac roeddwn i'n gweithio fel cynorthwyydd addysgu lle'r oeddwn i'n rhoi cymorth un-i-un i bob math o blant ysgol gynradd. Roedd rhai ohonyn nhw’n byw gyda theuluoedd maeth. Roeddwn i’n gweld y plant hyn yn cael eu symud o un teulu i'r llall ac roeddwn yn gallu gweld y gofid a'r tristwch roedd yn ei achosi iddyn nhw.

"Dechreuodd chwarae ar fy meddwl ac fe wnaeth i mi feddwl, wyddoch chi? Roedd gennyn ni dŷ gwag, gan fod ein plant wedi tyfu i fyny ac wedi symud allan, a'r gefnogaeth a'r strwythur i roi cartref sefydlog i'r plant hyn - felly, roedden ni'n meddwl y bydden ni'n mynd amdani!"

"ni yw ei fam a'i dad"

Mae Karen a Tom wedi bod yn maethu ers dros ddeng mlynedd erbyn hyn ac maen nhw'n credu na fydden nhw'n gallu gwneud hynny heb eu tîm Maethu Cymru yn Sir Ddinbych a'r berthynas wych maen nhw wedi'i meithrin gyda’u gweithiwr cymdeithasol sy'n eu goruchwylio.

"Mae gwybod ei bod hi ar ben arall y ffôn yn gwneud i ni deimlo nad ydyn ni ar ein pen ein hunain – rydyn ni i gyd yn rhan o hyn gyda'n gilydd."

Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw ddwy ferch ifanc yn aros gyda nhw, ond dechreuodd eu taith gyda Josh, a ymunodd â'u teulu pan oedd yn wyth mlwydd oed.

"Cyn iddo ddod atom ni, roedd wedi cael ei symud o gwmpas gwahanol deuluoedd maeth. Doedd ganddo ddim sefydlogrwydd, nac un person y gallai ddibynnu arno.

"Mae'n 23 mlwydd oed erbyn hyn ac rydyn ni mor falch ohono. Er gwaethaf y dechrau a gafodd yn ei fywyd, gwnaeth yn dda yn yr ysgol ac arhosodd gyda ni am yr holl flynyddoedd hynny.

Pan oedd Josh yn 18 oed, addasodd Karen a Tom adeilad allanol yn eu gardd i roi rhywfaint o annibyniaeth iddo, cyn iddo deimlo’n barod i symud ymlaen.

"Erbyn hyn mae wedi creu bywyd a dyfodol iddo'i hun, mae ganddo yrfa a'i deulu ei hun. Ac rydyn ni mor falch o fod wedi chwarae rhan yn hynny."

"rydyn ni'n mynd drwy bopeth fel teulu"

"Roedd yna gyfnodau tywyll iawn ar y dechrau, ond fe ddaethon ni drwy bethau - fel teulu - oherwydd bod Josh ein hangen ni. Roedden ni'n cymryd anadl ddwfn ac yn atgoffa ein hunain nad ef oedd ar fai."

Doedd y daith ddim bob amser yn hawdd, ond fe ddaethon nhw drwyddi gyda'i gilydd gyda chryfder a chefnogaeth eu teulu maeth.

hoffech chi ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os hoffech chi groesawu person ifanc i’ch teulu a darparu amgylchedd sefydlog iddo ffynnu a thyfu, fel gwnaeth Karen a Tom, byddem wrth ein bodd i clywed wrtho'ch chi.

Cysylltwch â ni heddiw, a chymryd eich cam cyntaf ar eich taith faethu.

hoffech chi ddysgu mwy?

Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i'n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.