blog

A allaf faethu babanod?

Rhiant a phlentyn

A allaf faethu babanod?

Er bod cyfartaledd oedran plentyn mewn gofal maeth ychydig yn hŷn, weithiau mae babanod a phlant bach dan 4 oed angen gofal maeth hefyd, weithiau mae babanod newydd angen hyn yn syth o’r ysbyty pan maent ond yn ychydig oriau oed.

Yng Nghymru, mae 2 o bob 5 plentyn mewn gofal yn 10 i 15 oed, a llai na 1 ym mhob 20 o dan 1 oed (ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Mawrth 2022) (gwefan allanol).

Pam rydym yn maethu babanod

Mae Jennie a'i gŵr Simon, ynghyd â'u plant sy'n 13 oed a 10 oed, wedi bod yn maethu gyda'u hawdurdod lleol Maethu Cymru Sir Ddinbych ers 2014.

Simon and Jennie Walker
Simon a Jennie Walker

Mae Jennie yn rhannu’r hapusrwydd a’r fraint o gael babanod maeth yn eu bywydau.

Y pethau cadarnhaol wrth faethu baban

Gall maethu babanod fod yn foddhaol iawn oherwydd y profiadau cynnar hynny sydd yn rhoi sylfeini i ddatblygiad diweddarach, gan roi’r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.

"Gan fod ein plant yn ifanc pan ddechreuasom faethu’n llawn amser, roedd maethu babanod yn siwtio ein sefyllfa deuluol ar y pryd,” eglurodd Jennie, a ddechreuodd ystyried maethu pan roedd yn cefnogi mam leol a’i babi wrth weithio fel gweithiwr ieuenctid.

Mae babanod yn fregus iawn a gallaf weld bod gofalu amdanynt yn fraint mewn oedran mor ifanc. Rydym yn cael gweld nhw’n gwenu am y tro cyntaf, yn dweud eu geiriau cyntaf, y camau cyntaf a’r cerrig milltir arbennig hynny.

Mae cyfle gwirioneddol i gefnogi datblygiad iachus a chysylltiad yn ystod y tair blynedd gyntaf o fywyd plentyn, ac os yw hyn yn cael ei wneud yn dda, yna mae siawns gwell o lwyddiant i ba bynnag le maent yn symud iddo.

Hefyd rydym yn credu bod y mwyafrif o bobl yn hoffi bod mewn cwmni babanod. Maent yn ein galluogi i gysylltu ag eraill ac maent yn dod â ni’n agosach fel teulu hefyd. Mae aelodau o’r teulu yn hoffi helpu, yn enwedig i gael mwythau!

Ac rwyf wrth fy modd yn prynu dillad babi!"

Beth mae babanod newydd mewn gofal maeth eu hangen?

Bydd babanod newydd fel arfer yn cyrraedd gofalwyr maeth ar fyr rybudd ac fel pob babi, byddant angen gofal a sylw parhaus. Mae'n ymrwymiad 24/7.

"I ddechrau, mae babanod newydd sydd yn cael eu maethu angen yr un gofal a phob baban newydd. Maent eisiau teimlo cariad, angen eu meithrin ac maent angen teimlo’n ddiogel. Maent angen eu bwydo - dydd a nos. Mae angen newid eu clytiau. Maent angen rhywle diogel i gysgu ac maent angen eu cysuro - fel roedd fy mhlant fy hun ei angen pan roeddynt hwy yn fabanod. Yn achlysurol, mae rhai babanod sydd yn cael eu maethu gydag anghenion iechyd ychwanegol ond mae gennym lawer o brofiad o ofalu am blant gydag anableddau ac anghenion arbennig."

Beth mae babanod hŷn sy’n cael eu maethu eu hangen?

Yn ogystal â maethu babanod newydd, mae Jennie a’i theulu wedi bod yn maethu babanod hŷn, rhai o 6 mis oed i 18 mis oed. Mae’r teulu yn parhau i ddarparu amgylchedd deulu cariadus i un babi, a ddaeth i fyw atynt yn 18 mis oed ac sydd bellach yn 7 oed, ar sail hir dymor.

"Mae maethu babanod hŷn yn brofiad ychydig yn wahanol. Mae ganddynt dal yr un anghenion ymarferol â babanod newydd, ond gall yr ymateb emosiynol fod yn wahanol.

Roedd un babi yr oeddem yn ei faethu yn anystwyth wrth gael ei gafael. I ddechrau, roeddem yn meddwl bod problem feddygol, ond gwyliadwrus oedd y babi. Ond o fewn 6 wythnos roedd y babi wedi ymlacio ac yn mynd o nerth i nerth, yn cyrraedd y cerrig milltir ddatblygiadol, dim ond ychydig yn arafach i ddechrau. Roedd y babi yn rhoi gymaint o bleser i ni."

Maethu babanod - rhestr wirio hanfodol

Yn aml iawn mae babanod sy'n cael eu maethu yn cyrraedd ar fyr rybudd. Dyma restr gwirio hanfodol i fabanod gan Jennie:

  • Basged moses
  • Crud
  • Matres
  • Blancedi
  • Mat Newid
  • Bag Newid
  • Dillad
  • Clytiau
  • Llaeth
  • Poteli
  • Diheintydd boteli
  • Weips babi
  • Bagiau clytiau
  • System deithio - pram a sedd car babi ("rwyf wedi casglu 3 baban newydd yn syth o’r ysbyty, felly mae sedd car yn hanfodol ar gyfer hyn - Jennie").

A oes arnoch angen ystafell sbâr i faethu babi?

Gall babanod rannu ystafell wely gyda’r gofalwr maeth tan maent yn o leiaf 6 mis oed. Mae plentyn dros ddwy oed angen ystafell wely eu hunain i sicrhau bod ganddynt eu lle eu hunain a phreifatrwydd.

"Nid ydych yn siŵr pa mor hir y byddent gyda chi, felly bydd rhaid i chi gael ystafell sbâr ar ryw bwynt. Mae’r rhan fwyaf o’r babanod rydym yn eu maethu wedi bod gyda ni am o leiaf 18 mis, weithiau’n hirach, os mai’r canlyniad terfynol yw mabwysiadu, a’r amser byrraf i ni oedd 6 mis lle’r oedd y canlyniad i ddychwelyd yn ôl i deulu biolegol.

Yn ystod eu hamser gyda ni, bydd y babi fel arfer yn symud i’r ystafell eu hunain pan fyddant yn o leiaf 6 mis oed, sydd yn fuddiol i’w datblygiad. Hefyd mae’n eu helpu i symud ymlaen gan eu bod wedi arfer bod yn eu hystafell eu hunain."

Sut i annog babanod maeth i gael cysylltiad gyda'u gofalwyr?

Mae pob plentyn angen datblygu cysylltiad emosiynol i’w gofalwyr maeth ar gam cynnar ac mae’r gallu i gysylltu a chreu cysylltiad yn aml yn dibynnu ar y math o ofal a gawsant cyn dod i ofal maeth.

"Rydym yn annog cysylltiad gyda digon o anwyldeb, chwarae, cymryd diddordeb yn yr hyn sydd o bwys i’r plentyn a darparu cyfleoedd a phrofiadau newydd.

Pan nad yw babanod wedi mor ymatebol pan maent yn dod atom y tro cyntaf, maent angen ychydig o ofal, cynhesrwydd, dealltwriaeth, cysondeb, arferiad a chysur. Dros amser mae hyn yn bwynt angor i’r plentyn, ac mae eu disgwyliadau yn newid i weddu eu harferion newydd. Beth bynnag mae’r plentyn wedi’i brofi yn y gorffennol, maent yn dechrau cysylltu gwahanol brofiadau ac arferion newydd gyda’u teuluoedd maeth."

A fydd gan fabanod maeth cyswllt gyda’u rhieni biolegol?

Bydd y mwyafrif o fabanod a phlant maeth cyswllt gyda’u rhieni biolegol. Mae cyswllt rheolaidd yn helpu’r plant ddatblygu synnwyr o hunaniaeth, yn ogystal â theimladau o sefydlogrwydd a diogelwch.

"Yn fy mhrofiad i, mae’r mwyafrif o fabanod newydd gyda chysylltiad rheolaidd gyda’u teulu biolegol, tua 3 i 5 gwaith yr wythnos, a fydd fel arfer yn digwydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Bydd amgylchiadau’r rheswm mae babanod newydd wedi cael eu maethu yn amrywio, a bydd y rhesymau hyn hefyd yn pennu faint o gyswllt fydd yn cael ei gynnig. Dim ond mewn amgylchiadau prin ac eithafol rwyf yn gweld baban newydd yn cael dim cyswllt gyda’u teulu biolegol.

Pan fyddaf yn cyfarfod teulu biolegol, rwyf bob amser yn ymwybodol ei bod yn amser anodd iddynt. Fel cyswllt i’w plentyn, rwy’n gwneud yr oll y gallaf i’w sicrhau a gwrando arnynt. Fodd bynnag, weithiau mae perthynas yn gallu bod dan straen. Mae wedyn yn bwysig cadw meddylfryd a ffocws proffesiynol er les orau’r plentyn a bod yn barchus, hyd yn oed os nad ydynt yn barchus yn ôl."

Sicrhau bod gan fabanod maeth atgofion o'u bywyd cynnar

Gall bocsys atgofion helpu plant maeth wneud synnwyr o’u bywyd cynnar ac yn ffordd dda o helpu plant i gadw gafael ar yr atgofion pwysig hynny.

"Rwyf bob amser yn meddwl beth allai’r plentyn fod eisiau gwybod yn ddiweddarach, a beth wnaethais i gadw i fy mhlant fy hun” eglurai Jennie.

Pan fydd babanod bach yn fy ngofal, byddaf yn tynnu llawer o luniau a chreu llyfrau lluniau. Rwy’n sicrhau bod manylion pwysig yn cael eu dogfennu, megis pwy oedd yn yr ysbyty gyda’r babi a chofnodi gwybodaeth am bwysau, dyddiad ac amser yr enedigaeth. Os yw’r rhieni biolegol wedi gwisgo’r babi mewn dillad penodol ac wedi rhoi tegan a/neu flanced, mae’r rhain yn cael eu cadw’n agos i’r babi ac yn cael eu cadw yn y bocs atgofion. Hefyd tagiau ysbyty yn y bocs atgofion. Fel mae amser yn mynd heibio, gellir creu atgofion drwy lyfrau lluniau, a gall unrhyw roddion teganau arbennig, hoff ddillad ac atgofion eraill o ddiwrnodau allan a phrofiadau cyntaf, gael eu rhoi yn y bocs atgofion. Pan fyddant yn gadael a symud ymlaen, gall y plentyn gadw hwn am byth.

Yn ystod y cyswllt, bydd teuluoedd biolegol yn aml iawn yn dod â rhoddion, megis dillad newydd. Ni fyddaf byth yn cael gwared ar y rhain, hyd yn oed pan fyddant wedi tyfu allan ohonynt. Byddaf yn rhoi label yn nodi enw’r unigolyn sydd wedi eu rhoi, a’u cadw’n ddiogel gyda’r holl atgofion eraill."

Maethu baban gyda phlant eich hunain

Mae llawer o deuluoedd maeth yn cynnwys oedolion a phlant, gyda phlant gofalwyr maeth yn chwarae rôl allweddol mewn aelwyd maethu.

"Rydym bob amser yn cynnwys ein plant ein hunain yn y broses. Cyn bydd plentyn neu fabi’n cyrraedd, byddwn i gyd yn mynd i siopa gyda’n gilydd i brynu dillad newydd a hanfodion i fabi. Pan fydd baban newydd yn cyrraedd, mae fy mhlant bob amser wrth gefn i roi mwythau, ac wrth eu boddau yn helpu i fwydo.

Gyda phlant maeth hŷn, bydd fy mhlant yn eu helpu i setlo drwy ddangos y tŷ iddynt ac yn dod o hyd i focsys teganau sy’n addas, ac mi wnaethant helpu i gasglu’r teganau hyn. Unwaith, bu i ni faethu plentyn nad oedd yn gwybod sut i chwarae gyda theganau, ond ar ôl ychydig o ryngweithiad gyda’r plant eraill yn y tŷ, dysgodd y plentyn sut i chwarae yn araf.

Weithiau, mae’r plant rydym wedi’u maethu wedi gorfod gadael eu brodyr a chwiorydd am wahanol resymau, felly mae cael plant eraill yn y tŷ i chwarae a chael hwyl yn dod â synnwyr o normalrwydd ac yn eu helpu i ymlacio a setlo - mae plant yn dueddol o gael yr effaith hynny ar ei gilydd!

Rydym yn trin ein holl blant maeth fel rhai ein hunain. Maent yn cael cariad diamod ac yn cael eu trin fel aelodau o’r teulu."

Caleb and Joel Walker
Caleb a Joel, plant Jennie a Simon

"Mae maethu babanod yn dod â ni’n agosach at ein gilydd fel teulu" - Jennie.

Pan fydd babanod mewn gofal maeth yn symud ymlaen

Gall faethu ddarparu cartref hir dymor i rai babanod, fel yn achos Jennie ar hyn o bryd, ond mae’r mwyafrif o fabanod yn symud ymlaen - yn ôl i’w teulu biolegol neu yn cael eu mabwysiadu. Mae ffarwelio gyda phlentyn maeth yn llawn emosiynau, ac mae’n un agwedd o faethu y gall llawer o bobl weld yn anodd.

"Yn amlwg, mae eu rhoi yn ôl ar ôl iddynt fod gyda ni yn cynnwys ‘proses gadael i fynd’, ond hefyd yn rhan bwysig o gefnogi cynllun hirdymor i’r plentyn. Mae gwybod ein bod wedi chwarae ein rhan yn eu stori ac wedi eu cynorthwyo i roi cyfle gorau posib i symud ymlaen mewn bywyd yn ei wneud yn fuddiol, a dyma pam ein bod yn ei wneud.

Rwyf wedi gweld y profiad o faethu babanod yn gymaint o bleser. Maent yn dod â chymaint o lawenydd - er gwaetha’r diffyg cwsg oherwydd bwydo yn y nos!"

A allaf ddewis ystod oedran wrth faethu?

Yn aml iawn mae maethu babanod yn dymor byr a byddwch angen ystafell wely sbâr. Er gallwch gael dewis o faethu babanod, byddwch angen hyblygrwydd o ystod oedran eang o blant i weddu eich teulu. Mae maethu babanod, plant bach a phlant iau yn debygol yn aml iawn os ydych yn maethu gyda’ch awdurdod lleol, Maethu Cymru (gwefan allanol).

"Gall y rheswm dros fod eisiau dewis ystod oedran fod oherwydd gwahanol amgylchiadau teulu, megis oedran eich plant eich hun a faint o blant sy’n byw yn y cartref”, eglurodd Julie Fisher, Rheolwr Tîm Maethu, Maethu Cymru Sir Ddinbych.

Yn Maethu Cymru, rydym yn gweithio gyda chi i baru plant gyda’r teulu cywir. Byddwn yn gwrando arnoch chi, dod i adnabod chi a’ch teulu, eich bywyd, eich cartref. Yna gallwn eich paru gyda phlentyn maeth sydd yn gweddu orau eich sgiliau ac amgylchiadau, ac mae paru gwell yn golygu canlyniadau gwell i’r plentyn."

Allech chi faethu gyda’ch Awdurdod Lleol?

Os ydych yn byw yn Sir Ddinbych ac yn teimlo y gallwch helpu adeiladu dyfodol gwell i blant lleol, cysylltwch â Maethu Cymru Sir Ddinbych a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru (gwefan allanol) i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.