Teulu'n cerdded yn y parc
Teulu'n cerdded yn y parc

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Pan fyddwch yn dod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych, byddwch yn cael cefnogaeth ariannol sylweddol. Mae’r lwfansau hael hyn yn seiliedig ar amrywiol ffactorau megis y math o faethu rydych yn ei wneud, oedran y plentyn neu’n unigolyn ifanc, faint o blant rydych yn eu maethu, ac am ba hyd.

Er enghraifft, ar hyn o bryd yn Sir Ddinbych mae Gofalwyr Maeth sy’n cael rhwng £10,036 a £30,108 y flwyddyn.

manteision eraill

Byddwch yn gallu mwynhau amrywiaeth o fanteision eraill hefyd. Yn ogystal â'r gefnogaeth a'r lwfansau ariannol sydd wedi'u crybwyll eisoes, fel gofalwr maeth yn Sir Ddinbych, byddwch hefyd yn cael:

  • Cerdyn Max
  • Aelodaeth Cadw
  • Aelodaeth Rhwydwaith Maethu
  • Aelodaeth Foster Talk
  • Cerdyn blynyddol Hamdden Sir Ddinbych - cerdyn blynyddol am ddim yn rhoi gostyngiad o 25-30% i chi ar holl weithgareddau hamdden.
  • Cerdyn gostyngiad Blue Light - mynediad am ddim a rhatach i atyniadau ledled y DU, gan gynnwys gostyngiadau ar gyfer siopau adnabyddus ar y stryd fawr.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Dim ond rhai o'r manteision yw'r rhain, ac mae llawer mwy! Mae pob un o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, gan gynnwys Sir Ddinbych, wedi ymrwymo i'r Ymrwymiad Cenedlaethol. Mae hwn yn becyn sy'n cynnwys hyfforddiant, cefnogaeth a manteision. Mae’n gosod fframwaith cyson i sicrhau eich bod chi a phob gofalwr maeth arall Maethu Cymru yn derbyn yr un cymysgedd gwych o fuddion a manteision.

Felly, fel gofalwr maeth gyda ni, byddwch yn elwa o'r canlynol:

Teulu'n mwynhau hufen iâ

un tîm

Mae ein tîm Maethu Cymru Sir Ddinbych yn gweithio ochr yn ochr â phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â bywyd plentyn maeth, fel un tîm. Mae hyn yn bosibl oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o’r un Awdurdod Lleol.

Fel gofalwr maeth gyda ni, rydych chi’n rhan o’r tîm hwn hefyd. Byddwn wrth eich ymyl i helpu gyda’r plant yn eich gofal pryd bynnag y bydd arnoch ein hangen ni. Rydyn ni’n cyflwyno ein gwasanaethau rhagorol i bob gofalwr maeth.

Rydych chi’n rhan allweddol o dîm Maethu Cymru Sir Ddinbych. Mae hyn yn golygu y byddwch bob amser yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gadw mewn cysylltiad – mae hyn yn helpu i greu’r dyfodol gorau i’r holl blant sydd yn ein gofal, yn ogystal â’u teuluoedd maeth.

Cyn gynted ag y byddwch yn dod yn aelod o dîm Maethu Cymru, byddwch yn ymuno â phobl sy’n gyfrifol am bob plentyn sy’n cael ei faethu yng Nghymru. Pob un yn cydweithio i helpu plant i aros yn eu hardal leol. Dyma sy’n gwneud ein tîm mor unigryw ac arbennig.

Lluniadu teulu

dysgu a datblygu

Rydyn ni’n eich helpu chi i dyfu. Mae’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu i’ch helpu i ddatblygu yr un fath ar hyd a lled Cymru. Mae hyn yn golygu y byddwch yn elwa o becyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried ac sy’n cael ei rannu. Rydyn ni am i chi dyfu i’r eithaf, a’n rôl ni yw eich helpu i wneud hynny.

Fel gofalwr maeth gyda ni, bydd gennych gofnod dysgu unigol a chynllun datblygu. Mae hyn yn cadw golwg ar eich cynnydd yn ystod eich taith faethu. Mae’n cynnwys yr holl sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy rydych chi wedi’u hennill ar hyd y ffordd, ac mae’n pennu llwybr ar gyfer eich dyfodol chi hefyd.

Teulu maethu gartref: Mam a Dad

cefnogaeth

Mae Maethu Cymru Sir Ddinbych wrth eich ymyl chi, bob cam o’r ffordd. Bydd gennych chi dîm bob amser i’ch annog chi, i’ch arwain chi ac i’ch cefnogi chi. Bydd tîm Maethu Cymru bob amser gyda chi.

Byddwch hefyd yn cael help gweithiwr cymdeithasol proffesiynol profiadol ar eich cyfer chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan hefyd, a hynny bob amser. Byddwch yn cael cefnogaeth broffesiynol ddydd a nos. Pryd bynnag a ble bynnag y bydd angen cyngor, arweiniad neu gefnogaeth arnoch.

Ar ben hyn, byddwch yn gallu cael gafael ar nifer o grwpiau cefnogi gofal maeth lleol lle bydd cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael i chi. Byddwch yn gallu cwrdd â gofalwyr maeth eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, rhannu profiadau a straeon, a meithrin perthnasoedd. Byddwch yn dod o hyd i gymunedau newydd a phobl sy’n deall.

Teulu maethu yn casglu cerrig mân

y gymuned faethu

Mae’r gymuned faethu yn aros mewn cysylltiad.

Byddwch yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd lle gallwch ddod yn nes at deuluoedd maeth eraill. Byddwch yn cael profiadau, yn gwneud ffrindiau newydd ac atgofion bythgofiadwy.

Mae gwybodaeth helaeth ar-lein ar gael i chi ei defnyddio bob amser, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun.

Byddwch yn dod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru pan fyddwch chi’n ymuno â ni. Rydyn ni’n talu eich tâl aelodaeth yn llawn. Mae’r sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig cefnogaeth annibynnol, cyngor, arweiniad a llawer iawn mwy. Rydyn ni’n deall pa mor bwysig yw hyn, a dyna pam rydyn ni’n cynnig hyn fel mater o drefn.

Teulu maethu yn casglu cerrig mân

llunio'r dyfodol

Y cam pwysicaf ar eich taith faethu yw eich cam cyntaf. Ar ôl gwneud hynny, rydyn ni’n canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol.

Byddwch yn cael eich clywed - yn lleol, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol. Mae eich barn a’ch safbwyntiau’n bwysig i ni, a bydd yn effeithio ar sut rydyn ni’n symud ymlaen. Byddwch yn cael nifer o gyfleoedd i lunio ein dyfodol a dylanwadu ar faethu yng Nghymru, yn ogystal â chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.