blog

Allaf i faethu gydag anifeiliaid anwes?

Cŵn

Mae gan 1 o bob 4 o deuluoedd yn y DU gi, a bron i hanner yr holl deuluoedd ryw fath o anifail anwes, felly nid yw’n syndod mai un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu clywed yw "allaf i faethu os oes gen i anifeiliaid anwes?"

Mae gan lawer o’n gofalwyr maeth dan Maethu Cymru Sir Ddinbych anifeiliaid anwes, sy’n cynnwys cathod, cŵn, pysgod, ceffylau a madfallod hyd yn oed!

Gall anifeiliaid anwes mewn cartref maeth fod o fantais enfawr i’r plentyn neu’r person ifanc ac nid yw’n eich rhwystro chi rhag bod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir Ddinbych.

"Mae'r plant a'r cŵn yn mwynhau rhedeg yn rhydd ac os oes dŵr neu unrhyw fwd yno, mae pawb yn gwlychu ac yn baeddu – wrth ein boddau!" – Jayne ac Ian, Gofalwyr Maeth, Sir Ddinbych.

Yn rhan o’ch asesiad maethu, bydd eich anifeiliaid anwes yn cymryd rhan yn eu holiadur eu hunain i anifeiliaid anwes, a fydd yn edrych ar eu natur a’u hymddygiad ac i feddwl sut y byddant yn ymateb i rywun newydd yn ymuno â’ch cartref.

Gall cathod a chŵn, yn benodol, fod â manteision therapiwtig i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol cymhleth, a gallant hefyd annog a helpu i ddatblygu cyfathrebu anllafar. Fostering secure attachment: experiences of animal companions in the foster home (gwefan allanol).

"Gall cathod a chŵn, yn benodol, fod â manteision therapiwtig i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol cymhleth."

Cŵn


Atgofion o faethu gydag anifeiliaid anwes

Fe wnaethom ofyn i'n haelwydydd maeth sydd ag anifeiliaid anwes rannu rhywfaint o'u hoff atgofion o faethu gyda’u hanifeiliaid.

Mae gan ein gofalwyr maeth Dan a Barry gath o'r enw Cassie (neu 'Stinky Minky', yr enw arall arni!)

"Pan oedd ein person ifanc ni'n iau, roedd o’n arfer meddwl bod Cassie (y gath) yn gallu ysgrifennu cardiau gan ein bod ni’n anfon cardiau Nadolig a phen-blwydd gan y gath! Mae o'n hŷn rŵan, ac yn gwybod nad ydi hynny'n wir! Ond, mae o bellach yn draddodiad bach ac yn jôc rhyngom ni, felly rydyn ni'n dal i'w hanfon nhw bob blwyddyn!"

Dywedodd Jayne ac Ian Townson, sydd â 3 o gŵn wedi’u hachub:

"Ma gennym ni lawer o atgofion melys o ddiwrnodau allan efo’r plant rydyn ni wedi’u maethu a’n cŵn. Rydyn ni wedi teithio ar hyd a lled Cymru gyda phicnics, peli a barcutiaid ac yn mynd am dro. “Mae’r plant a’r cŵn yn mwynhau rhedeg yn rhydd ac os oes dŵr neu unrhyw fwd yno, mae pawb yn gwlychu ac yn baeddu – wrth ein boddau!"

"Mae anifeiliaid anwes hefyd yn wych i dorri’r ias pan mae plant yn dod i gartref maeth newydd, yn enwedig plant sydd ddim yn ymddiried mewn oedolion. Dywedodd Jayne ac Ian hefyd: “Pan mae plant maeth wedi dod atom ni, mae ein cŵn wedi rhoi cymaint o gariad a sylw i’r plant. Mae hi fel pe baent yn gallu synhwyro eu hofn a’u hansicrwydd ac eisiau eu helpu drwy’r ychydig ddiwrnodau cyntaf yn eu cartref newydd".

Ci


Dros amser, mae plant yn aml yn datblygu teimladau cadarnhaol tuag at anifeiliaid anwes yn eu cartref. Gall y cyfrifoldeb i helpu i ofalu amdanyn nhw helpu hunanhyder a hunan-barch y plant. Gall anifeiliaid anwes hefyd helpu i ddysgu gwersi pwysig i blant fel ymddiriedaeth, parch, tosturi a chyfrifoldeb. Pan mae plentyn yn rhan o’r gwaith o ofalu am anifail anwes, maent hefyd yn dysgu sut i garu, meithrin a gofalu am greadur arall yn ogystal â dysgu am ymroddiad a chysondeb i’r anifail.

"Mae hi fel pe bai ein cŵn yn gallu synhwyro eu hofn a’u hansicrwydd ac eisiau eu helpu drwy’r ychydig ddiwrnodau cyntaf yn eu cartref newydd" – Jayne ac Ian

Mae gan ein gofalwyr maeth Vonda a Pete gath o’r enw Teddy, sydd bron yn 4 oed ac sydd wedi treulio’i holl fywyd yn rhan o aelwyd faethu.

"Mae Teddy yn rhan annatod o’n teulu ni ac rydym wedi sylwi ers iddo gyrraedd ei fod yn helpu plant i ymlacio a theimlo’n gartrefol, ac mae bob amser yn llwyddo i wneud iddynt deimlo’n ddiogel. Roedd un plentyn yn benodol yn mynnu bod Teddy yn cysgu’n ei hystafell – roeddem ni’n aml yn dod o hyd iddi hi ar y bync isaf a Teddy ar y bync uchaf. Roedden nhw’n ffrindiau gorau."

Teddy


Mae llawer o fanteision o gael anifeiliaid anwes mewn cartref maethu. Os oes gennych chi anifail anwes a’ch bod yn teimlo y byddai’n fanteisiol mewn aelwyd faethu, beth am siarad gydag aelod o’n tîm ni?

Os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych, cysylltwch â’ch tîm Maethu Cymru Sir Ddinbych lleol.

Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru (gwefan allanol) i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol chi.